Fe'i clywsoch yma gyntaf
Ein syniadau a'n gwybodaeth ar hyn o bryd
Y Cwsmeriaid
Ydyn nhw’n poeni, neu beidio? Mae hynny’n gwestiwn sy’n cael ei ofyn fwyfwy gan gwmnïau wrth iddyn nhw geisio deall a ydy cwsmeriaid yn poeni am nodweddion cynaliadwyedd brandiau ai peidio ac a ydyn nhw’n fodlon talu mwy am nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu’n foesegol. Does dim un ateb cywir i hyn mewn gwirionedd.
Fel sy’n wir bob amser pan fyddwn yn sôn am gwsmeriaid, mae pob un yn wahanol, ac efallai bod yr hyn sy’n bwysig o ran cynaliadwyedd i un cwsmer ddim wedi croesi meddwl cwsmer arall. Fodd bynnag, pecynnu ydy’r mater pwysicaf i gwsmeriaid o ran bwyd a diod.
Roedd ein Harolwg Tracio diweddaraf yn tynnu sylw at becynnu fel y maes ble roedden nhw’n teimlo y dylai gweithgynhyrchwyr bwyd a diod fod yn blaenoriaethu eu hymdrechion pan ddaw hi’n fater o gamau amgylcheddol i ganolbwyntio arnyn nhw.
Rydyn ni’n gwybod o astudiaethau blaenorol fod cwsmeriaid yn y DU yn teimlo mai cyfrifoldeb gwneuthurwyr a manwerthwyr, yn hytrach na nhw eu hunain, ydy cymryd camau breision yn y maes hwn. Fodd bynnag, mae’n ddiddorol gweld bod dros 45% bellach yn rhagweithiol eu hunain ac yn mynd ati i geisio lleihau gwastraff bwyd fel ffordd o helpu i fynd i’r afael â difrod amgylcheddol.
Categorïau
Mae rhai categorïau lle mae pryderon cwsmeriaid ynghylch pecynnu eisoes yn arwain at newidiadau mewn ymddygiad. Er enghraifft, canfu ein hymchwil fod 32% yn osgoi prynu dŵr potel. Mae’r cyhoeddusrwydd ynghylch plastigau untro ac effaith y rhaglen ‘Blue Planet’ wedi golygu bod cwsmeriaid yn newid i ddefnyddio dŵr tap. Fodd bynnag, mae diogelwch yn dal i ddod o flaen yr amgylchedd wrth iddyn nhw barhau i brynu mwy o ffrwythau a llysiau wedi’u lapio nag oedden nhw’n ei wneud cyn COVID-19.
Gan gymryd dau gategori cwbl wahanol, ee, dŵr a chig coch, gallwn weld pryderon amgylcheddol gwahanol iawn yn dod i’r amlwg. Dyma lle mae angen i gwmnïau feddwl am yr effaith fwyaf y mae eu categori yn ei chael ar yr amgylchedd a chanolbwyntio ar atebion arloesol i fynd i’r afael â’r rhain. Bydd angen i gig coch gael ei becynnu mewn deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn sicr, ond ei her fwyaf fydd rhoi sylw i’r holl gyhoeddusrwydd negyddol ynghylch effaith amgylcheddol nwyon methan o wartheg.
Cwmnïau
Ddylai cwmnïau sy’n dymuno dod yn fwy ecogyfeillgar ddim cymryd yn ganiataol y bydd cwsmeriaid yn rhuthro i’w gwobrwyo am eu hymdrechion. Fodd bynnag, dros amser mae’n fwyfwy tebygol y bydd y cwmnïau hynny sy’n canolbwyntio ar frandiau a chynnyrch cynaliadwy yn gweld gwerth ychwanegol ar y llinell waelod. Mae brandiau Byw’n Gynaliadwy Unilever yn brawf o hyn – gan dyfu 69% yn gyflymach na gweddill y busnes a chyfrannu at 75% o dwf y cwmni.
Dim ond os bydd busnesau’n deall yn iawn beth mae cwsmeriaid eu categori yn chwilio amdano o ran cynaliadwyedd y daw twf. Pan fydd busnesau’n deall anghenion cwsmeriaid, bydd angen iddyn nhw gydnabod y bydd yn cymryd strategaeth ysgogi ac ymgyrchoedd marchnata sy’n canolbwyntio ar adrodd straeon emosiynol yn hytrach na llawer o ffeithiau i annog cwsmeriaid roi’r gorau i ddim ond meddwl a theimlo a dechrau gweithredu go iawn o blaid yr amgylchedd. O dan arweiniad emosiynau, byddan nhw fel arfer yn mynd y tu hwnt i feddwl yn rhesymol.
Clodagh
Ebrill 2021
Fe’i clywsoch yma gyntaf – Chwefror 2021
Defnyddwyr
Mae canlyniadau ein 5ed arolwg tracio Covid19 ar gael nawr!
Wrth i ni edrych ymlaen at flwyddyn fwy cadarnhaol, mae ein harolwg wedi datgelu bod defnyddwyr yn edrych ymlaen at y pethau syml mewn bywyd – teulu, ffrindiau ac iechyd. Ond mae arian ar feddwl llawer iawn ohonyn nhw hefyd.
Rydyn ni gyd wedi cael ein gorfodi i siopa’n wahanol, ond bydd yr arferion newydd hyn yn aros. Mae defnyddwyr wedi arfer siopa’n llai aml ac mae llawer o bobl yn newid i siopa ar-lein. Maen nhw’n croesawu’r newidiadau hefyd. Mae dros 40% o ddefnyddwyr yn ystyried Covid19 yn gatalydd ar gyfer datblygu arferion newydd fel gwneud eu bwyd eu hunain, gwneud mwy o ymarfer corff a bwyta’n iachach.
Categorïau
Wrth i ni gamu i mewn i’r gwanwyn a’r haf, mae’n debygol mai’r newid mawr fydd ail-ddechrau digwyddiadau teuluol bach a mwy o gymdeithasu yn yr awyr agored. Gallai hyn arwain at gyfleoedd i gwmnïau bwyd wrth fynd gynnig pethau mwy deniadol ar gyfer grwpiau bach a phicnics. Hefyd, efallai y bydd rhywfaint o’r adloniant clasurol mwy o faint yn dychwelyd.
Mae’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n gwneud eu bwyd eu hunain yn debygol o gael effaith barhaol. Ond, mae defnyddwyr yn amheus ac yn chwilio am atebion, fel prydau sy'n addas i deuluoedd ac sy’n helpu i wella eu repertoire. Mae pobl yn dechrau diflasu, ac mae’r dacteg farchnata glasurol o awgrymu ryseitiau syml yn fwy perthnasol nag erioed. Edrychwch ar sut mae ffeta wedi’i bobi wedi dal dychymyg y byd!
Cwmnïau
Mae siopau bwyd yn parhau i elwa o’r gwasanaethau bwyd yn cau. Fodd bynnag, bydd y cwmnïau hyn yn dechrau dod dan bwysau dros y misoedd nesaf. Mae’n fwy perthnasol nag erioed meddwl am eich strategaethau a pharatoi ar gyfer y cam nesaf - adferiad.
Camwch yn ôl o'ch categori, meddyliwch sut mae eich defnyddwyr yn byw a sut mae eu hanghenion craidd yn newid - oherwydd mae eu hanghenion yn sicr yn newid.
Nid gwneud eu bwyd eu hunain yw popeth. Mae cyfleoedd newydd i arwain ar wastraff bwyd, pecynnu ac arweinyddiaeth amgylcheddol a helpu eich defnyddwyr i fyw bywydau iachach - yn gorfforol ac yn feddyliol.
Llwythwch ein hadroddiad diweddar i lawr yma
David
Chwefror 2021
Fe’i clywsoch yma gyntaf – Ionawr 2021
Defnyddwyr
Ionawr 2010, chwiliwyd am y gair ‘Fegan’ 3 miliwn o weithiau yn y DU. Gan neidio ymlaen i Ionawr 2020, chwiliwyd am y gair 100 miliwn o weithiau. Mae’r symudiad Fegan wedi newid o fod yn ddatganiad gwleidyddol yn seiliedig ar Actifyddion i fod yn fwy o ddewis ffordd o fyw buddiol, sy’n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn gyfrifol, drwy gymorth yr ymgyrch ‘Fegionawr’ sydd wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae’r digwyddiad wedi datblygu o ddim yn 2014 i gael dros 540.000 o bobl yn cofrestru yn 2021. Dim ond i un cyfeiriad y mae poblogrwydd Bwyd Fegan yn mynd.
Dim ond tua 1% o’r boblogaeth sy’n Fegan, felly er bod y farchnad yn ymddangos yn fach, mae’n cyrraedd llawer iawn mwy o bobl. Canfu arolwg olrhain Ionawr 2021 Levercliff fod 11% o’r holl ddefnyddwyr nad oeddent yn fegan, wedi penderfynu cymryd rhan yn Fegionawr 2021 – nifer sylweddol, gyda 9% o’r holl ddefnyddwyr yn prynu bwyd fegan penodol, gan godi i 17% yn y grŵp oedran 18-34. Pam? Y prif reswm oedd helpu i golli pwysau, rhoi hwb i fwyta’n iach, am resymau lles anifeiliaid ac i gefnogi eraill sydd hefyd yn ei wneud.
Categorïau
Fel categori, fe wnaeth bwydydd Fegan berfformio’n gryf yn y farchnad manwerthu yn 2020. Mae’n wir dweud bod y mwyafrif o gategorïau wedi perfformio’n gryf o ganlyniad i’r Cyfnod Clo yn rhoi hwb i wario ar fwyd a diod, ond mae bwydydd Fegan wedi bod yn perfformio’n uwch na’r categori. Yn ôl Kantar, roedd twf gwerthiant prydau fegan oer dros 25% yn 2020, mwy na dwbl gweddill y categori, tra bod twf prydau fegan wedi’u rhewi yn 15% yn erbyn 13%.
Mae’r mathau hyn o niferoedd yn gwneud manwerthwyr yn hapus iawn ac yn annog mwy o ofod, cyfrif SKU ac arloesi. Yr union beth rydym yn ei weld ar draws y mwyafrif o fanwerthwyr.
Cwmnïau
Ionawr, bellach, yw’r adeg o’r flwyddyn i lansio cynhyrchion Fegan. Mae’r gyfradd fethu yn ymddangos yn sylweddol, ond mae’r lefelau arloesi’n uchel. Eleni, rydym wedi gweld buddsoddiad ar raddfa fawr gan y Coop yn eu cynhyrchion ‘GRO’, tra bod Asda wedi dilyn arweiniad Sainsbury’s o ychydig flynyddoedd yn ôl ac wedi lansio Cigydd Fegan o’r enw ‘Veelicious’. Maent yn honni mai cam ‘profi a dysgu’ ydyw i weld beth sy’n cael cefnogaeth defnyddwyr.
O ran cynhyrchion, bu ffocws penodol ar ‘unioni’r elfennau sylfaenol’, gyda nifer o ‘brif fwydydd’ ar gael mewn amrywiaethau Fegan, yn cynnwys ystod ehangach gan Heinz, wy hylif gan Crackd, ‘llefrith’ siocled gan Galaxy ac ystod eang o friwgig fegan amgen.
Os nad yw eich cwmni wedi mynd ati o ddifrif i ddatblygu cynllun ar gyfer cynhyrchion Fegan, nawr yw’r amser i feddwl yn ddifrifol amdano.
David
Ionawr 2021
Fe’i clywsoch yma gyntaf – Rhagfyr 2020
Y Nadolig – pwy a ŵyr
Mae cryn drafodaeth wedi bod ynghylch effaith y cyfnod clo ar ddathliadau’r Nadolig, sy’n golygu bod defnyddwyr yn ystyried eu cynlluniau gwyliau’n fwy gofalus. Mae effaith amlwg ar y wasanaethau bwyd yn y cyfnod cyn y Nadolig ond beth am sefyllfa cartrefi yn ystod y cyfnod hwn?
Cyfyngiadau
Mae pedair Llywodraeth y DU wedi cytuno i lacio’r cyfyngiadau dros y Nadolig gyda thri chartref yn gallu ffurfio swigen am bedwar diwrnod o 23 Rhagfyr ymlaen.
I ddefnyddwyr, mae hynny’n debygol o olygu y bydd y Nadolig yn dechrau’n gynnar. Mae’n debygol y bydd llai o bobl yn dod at ei gilydd, ond y byddan nhw’n treulio fwy o amser gyda’i gilydd. Efallai y gwelwn bartïon llai, a chyfle perffaith i gael gwared â’r ewythr blin hwnnw rhag ymuno â'r dathliadau! Ond wrth i’r cyfyngiadau ddod yn ôl i rym cyn y Flwyddyn Newydd, mae hynny’n debygol o gael effaith fawr ar y dathliadau arferol.
Rydyn ni wedi gweld tystiolaeth bod defnyddwyr yn paratoi ar gyfer y Nadolig yn gynnar. Gyda nerfusrwydd ychwanegol yn sgil Brexit, a phryderon ariannol, mae llawer yn osgoi prynu mewn panig munud olaf. Rydyn ni hefyd yn debygol o weld y bydd defnyddwyr yn parhau i brynu ar-lein wrth iddyn nhw geisio osgoi siopau Nadolig gorlawn.
Categorïau
Mae newid o ran arferion defnyddwyr yn cael effaith ar gategorïau mewn gwahanol ffyrdd. Fel arfer, alcohol, cynnyrch becws, melysion, bisgedi, creision a byrbrydau sawrus sydd wedi elwa o gynnydd yn y gwerthiant dros y Nadolig wrth i ddefnyddwyr baratoi i fwynhau eu hunain.
Mae’n debyg mai alcohol fydd y categori sy’n ‘elwa fwyaf’ ym maes manwerthu. Yn yr un modd â chyfyngiadau’r cyfnod clo, wrth i letygarwch dal i ddioddef, rydyn ni’n debygol o weld mwy o ddefnyddwyr yn rhoi cynnig ar eitemau newydd.
Gallai hefyd fod yn gyfnod tyngedfennol ar gyfer categorïau allweddol. Mae gwerthiant cacennau wedi dioddef yn ystod y cyfyngiadau symud wrth i ddefnyddwyr bobi gartref mwy. Mae’r Nadolig fel arfer yn gyfnod proffidiol i’r categori cacennau ac yn un y bydd y cynhyrchwyr am ei gael yn iawn ar ôl blwyddyn siomedig.
Er y gallai fod cynnydd yn yr wythnos sy’n arwain at y Nadolig, efallai y bydd defnyddwyr yn cadw un llygad at y dyfodol a bydd hyn yn arwain yn y pen draw at ddefnydd cymedrol. Gallai’r angen am fwy o gynllunio yn ogystal â rhagor o gyfyngiadau symud yn y flwyddyn newydd arwain at brynu mwy ystyrlon.
Cwmnïau
Ni fydd eleni’n Nadolig nac yn Flwyddyn Newydd ‘arferol’, felly mae’n amser i gwmnïau feddwl yn wahanol i’r arfer hefyd. Gyda dim ond ychydig wythnosau tan y Nadolig, does dim llawer mwy y gall y rhan fwyaf o gwmnïau ei wneud bellach. Ond mae amser o hyd i wneud y gorau o’ch cyfathrebiadau, gan sicrhau eu bod yn gwbl berthnasol i’ch defnyddwyr targed. Mae’n adeg pan fydd defnyddwyr newydd efallai’n dangos diddordeb yn eich categori a’ch cynnyrch, felly dewch i’w hadnabod.
Mae hefyd yn amser gwych i weld beth mae cwmnïau bwyd a diod eraill wedi bod yn ei wneud. Ewch i mewn i’r siopau a chadw’ch llygaid ar agor. Peidiwch ag edrych ar eich categori a’ch cystadleuwyr eich hun yn unig, cymerwch gipolwg iawn o’ch cwmpas. Os nad ydych chi’n gweld rhywbeth ac yn meddwl ‘biti na fydden ni wedi meddwl am hynny’ neu ‘fe allen ni wneud rhywbeth fel yna’, dydych chi ddim yn edrych yn ddigon caled.
Duncan
Rhagfyr 2020
Fe’i clywsoch yma gyntaf – Hydref 2020
Defnyddwyr
Nid oeddwn i erioed wedi clywed am adferiad siâp K tan yr wythnos hon, ond mae'n gwneud synnwyr. Mae'n rhagweld y bydd dirwasgiad Covid yn effeithio llai ar weithwyr proffesiynol mwy cefnog, ac y byddant yn adfer yn gyflymach; tra bod y rhai hynny mewn swyddi manwerthu, hamdden a gwaith â llaw yn cael eu heffeithio'n fwy difrifol, gan adfer ar gyfradd arafach o lawer. Mae'n ymddangos y byddai’r duedd hon yn dod i'r amlwg yn ein cartrefi â chyfyngiadau symud, gyda thon 4 yn dangos pryderon cynyddol ynghylch colli swyddi. Os nad ydych wedi ei ddarllen eto, cliciwch yma.
Mae’r ‘gwahaniaeth mawr’ hwn mewn arian yn cyd-fynd â ‘gwahaniaeth mawr’ mewn hyder o ran diogelwch hefyd, yn ystod y cyfnod Covid. Mae defnyddwyr hŷn yn arbennig yn anesmwyth ynglŷn â mynd allan, a chyda cyfyngiadau lleol ar waith ar draws rhannau o'r wlad, a dyfodiad tywydd y gaeaf, mae'r cyfan yn edrych ychydig yn ddigalon.
Pan fydd pethau'n dechrau mynd yn anodd, rydw i, fel llawer o ddefnyddwyr, yn edrych am gysur ar ffurf bwyd. P'un a yw hynny’n golygu rhannu rhywbeth wedi'i bobi ar Instagram, coginio pryd rhamantus, neu bryd bwyd teuluol syml, mae bwyd yn ein cysylltu yn ogystal ag yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i ni.
Categorïau
Mae pob categori yn wahanol, ond i mi, mae'r cysyniad hwn o ddirwasgiad siâp K yn ffordd ddiddorol o feddwl am newid cenhadaeth defnyddwyr mewn categorïau. Mae'n awgrymu ei bod yn debygol y bydd angen i gategorïau fodloni cenhadaeth dau fath o ddefnyddiwr gwahanol sydd ag anghenion hollol wrthgyferbyniol. Ar y naill law, y rhai sy’n cael eu cymell gan werth am arian, ac ar y llaw arall, y rhai sy'n cael eu hysgogi gan gynnyrch o safon ac ansawdd da. Mae newid mewn ffordd o fyw yn gyffredin i bawb h.y. bwyta allan yn llai aml, naill ai oherwydd cyfyngiadau, pryder neu gyfyngiadau ariannol
Mae hyn i gyd yn awgrymu i mi, nad nawr yw'r amser i roi'r gorau i arloesi. Yn hytrach, mae angen i chi wir ddeall sut mae anghenion eich defnyddwyr yn newid ac yn esblygu, a sut y gallwch ddiwallu eu hanghenion. Mae'n dod yn fwyfwy tebygol na fydd hwn yn ddirwasgiad siâp V miniog, byr, felly mae angen i ni baratoi ar gyfer y daith hir, a sicrhau bod categorïau manwerthu o leiaf, yn ffynnu trwy arloesi.
Cwmnïau
Mae yna ychydig o enghreifftiau syml o fanwerthwyr yn arloesi i weddu i'r dirwasgiad siâp K hwn. Fe wnaeth Iceland hyrwyddo eu cynnyrch unigryw Greggs yn amlach, tra bod Co-op ac Asda wedi lansio ystod newydd o becynnau prydau bwyd ‘tecawê cartref’ ar yr un pryd, a ddatblygwyd yn ystod y cyfyngiadau symud. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd â'r cysyniad hwn ar gyfer bwyd ethnig, ond mae eu bocsys Piri Piri yn syniad ysbrydoledig yn fy marn i.
Mae’r lleoliadau Foodservice wedi cael effaith ddiddorol ar ben arall y sbectrwm. Er bod llawer wedi cael eu gorfodi i gau (yn enwedig yn yr Alban), mae pecynnau prydau bwyty wedi dod yn ôl yn gryf iawn, gyda phrisiau cyfartalog pecynnau coginio gartref rhwng £40 a £50 am 2. Mae lefel y manylion, y gwariant a’r elfen bersonol yn rhai nad ydym yn eu gweld gyda manwerthu bwyd, ac mae'n debygol o apelio at y rheini lle nad yw’r dirwasgiad yn effeithio gymaint arnynt yn ariannol.
Felly, beth yw'r neges fawr? Meddyliwch sut byddai dirwasgiad siâp K yn effeithio ar eich busnes nawr, a ydych chi'n gwybod beth yw’r effaith debygol ar sefyllfa eich defnyddwyr, ac mewn blwyddyn, sut gallwch chi ddweud eich bod wedi’u helpu i oroesi'r storm. Byddwch yn glir beth yw eich rôl yn y categorïau rydych chi'n gweithredu ynddynt.
David
Hydref 2020
Fe’i clywsoch yma gyntaf – Awst 2020

Defnyddwyr
Rydw i’n pendroni’n aml (fel llawer ohonoch rwy’n siŵr) beth fydd effeithiau hir-dymor y cyfnod clo ar ymddygiad defnyddwyr.
Un o’r prif newidiadau mewn ymddygiad y mae Levercliff ac eraill wedi sylwi arno yw sut mae ymddygiadau bwyta ac yfed wedi newid – rhai wedi’u gorfod arnom ac eraill yn ddewisol.
Rydw i’n meddwl mai’r unig ffordd o ddeall sut bydd yr ymddygiadau hyn yn datblygu dros y tymor canolig a hir fydd trwy ddarganfod a monitro teimladau, anghenion, agweddau ac amgylchiadau sylfaenol defnyddwyr. Mae llawer o bethau gwahanol yn gyrru pob math o ymddygiad.
Er enghraifft, os cymerwn ni un newid mewn ymddygiad – gwneud eich bwyd eich hun yn amlach – mae llawer o ffactorau posib yn gyrru hyn.
-Amser – Mae gen i fwy o amser i wneud hyn
-Mwynhau – Rydw i wedi dysgu/ailddysgu hobi newydd rydw i’n ei mwynhau
-Meithrin – Rydw i eisiau gwarchod a meithrin fy nheulu
-Myfyrgar – Fel gweithgaredd creadigol mae’n helpu gyda theimladau o orbryder
-Iechyd – Rydw i/rydyn ni’n ceisio bwyta’n iachach
-Cynildeb – Mae’n rhatach gwneud eich bwyd eich hun
-Gorbryder siopa – Rydw i’n siopa’n llai aml felly rydw i’n cynllunio fy mhrydau
-Gwerthfawrogiad – Rydw i’n hoffi dangos fy sgiliau coginio i ffrindiau a theulu (ee ar gyfryngau cymdeithasol)
Categorïau
Wrth i lawer o bobl fel fi ddychwelyd i fywyd mwy ‘arferol’, y cymudo dyddiol a’r plant yn dychwelyd i’r ysgol, efallai y bydd ganddyn nhw lai o amser i goginio ond fydd y teimladau, yr anghenion, a’r agweddau eraill ddim o anghenraid yn diflannu. Sut gall y categorïau esblygu i gyflenwi’r anghenion hyn?
Mae rhai categorïau bwyd cyfleus, fel prydau parod, wedi dioddef o ganlyniad i’r cynnydd yn y duedd i wneud eich bwyd eich hun. Gallai newid olygu mwy o bwyslais ar ryseitiau cartref mewn prydau parod (cynhwysion cwpwrdd siop/oergell gartref) neu opsiynau i’r teulu. Neu ymgais o’r newydd i wneud i’r fformat pecyn rysáit werthu’n dda mewn siopau...efalllai gyda llai o strwythur neu am bris rhatach.
O ran y categorïau cynhwysion, gallaf weld pwyslais newydd ar fwydydd cyflym, hawdd a fforddiadwy sy’n atgoffa rhywun o’r ymgyrch Feed a Family for a Fiver gan Jamie Oliver a Sainsbury’s yn ystod y dirwasgiad diwethaf.
Cwmnïau
Rydw i’n credu bod cyfle i frandiau aros yn berthnasol a datblygu cysylltiadau dyfnach â’u cwsmeriaid drwy fod yn sensitif i anghenion a theimladau wrth iddyn nhw ddatblygu.
Enghraifft dda o gwmni wnaeth arallgyfeirio’n gyflym i ddiwallu angen yw Robert’s Bakery sy’n lleol i mi. Yn gynnar yn y cyfnod clo fe wnaethon nhw lansio pecyn pobi bara yn syth i’r drws.
I fynd yn ôl at y dirwasgiad diwethaf, bryd hynny fe wnaeth brandiau llwyddiannus gymryd sylw o anghenion y cyfnod...trît fforddiadwy (yr effaith lipstic) neu drît penwythnos fforddiadwy (noson fawr gartref).
Ond, gyda set newydd o amgylchiadau efallai y bydd pethau’n wahanol y tro hwn. Mae talu sylw i beth mae eich cwsmeriaid yn ei feddwl ac yn ei deimlo mor bwysig ag erioed.
Clair
Awst 2020
Fe’i clywsoch yma gyntaf – Gorffennaf 2020

Defnyddwyr
Yma yn Levercliff rydyn ni wrth ein bodd yn gwylio pobl ac o bryd i’w gilydd mae rhywbeth yn fy ysgogi i gofio fy mod i hefyd yn ddefnyddiwr, yr un fath â phawb rydyn ni’n sylwi ar eu hymddygiad! Rydw i wedi bod yn edrych ar ein Harolwg Olrhain Covid diweddaraf ac rydw i’n gallu gweld ymddygiadau’n datblygu yr ydw i hefyd yn dechrau eu harfer, neu o leiaf yn ceisio gwneud hynny! Mae’r rhain yn ymwneud ag iechyd ac effaith Joe Wicks. Sylw gan un o’n panelwyr wnaeth i mi sylweddoli hyn pan ddarllenais ei ateb i ‘pam ei fod yn bwyta mwy o brotein’. ‘Deiet yr hyfforddwr corff’ oedd yr ateb, sef Wicks. Rydw i hefyd wedi mynd ati i archebu powdwr protein i’w roi yn rhai o’i ryseitiau ac rwyf wedi bod yn ymarfer bob bore dan arweiniad JW mewn ymgais i wneud mwy o ymarfer corff a bwyta’n iachach. Tybed a all JW helpu’r genedl i ddeall yr hyn mae deietegwyr y byd hwn wedi bod yn ei ddweud wrthym ers cyhyd - nid y deiet diweddaraf sy’n mynd i’n gwneud ni’n iachach, ond mynd ati mewn ffordd fwy holistaidd i fyw’n iachach.
Categorïau
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i’r categori chwaraeon a maeth, gan nad yw eu marchnad graidd wedi gallu mynd i’r gampfa. Fodd bynnag, gallai’r newydd ddyfodiaid hyn sydd â’u bryd ar ‘iechyd holistaidd’ fod yn gyfle.
Efallai y dylai adwerthwyr fod yn meddwl yn ehangach na ‘maeth chwaraeon’ yn unig. Allen nhw ei gwneud hi’n haws i’r defnyddiwr fabwysiadu ffordd iachach o fyw? Efallai drwy gyfeirio a thynnu sylw at gynhyrchion sy’n uchel mewn protein e.e. cnau a chig. Mae Sainsbury’s wedi creu pwynt gwahaniaeth yn yr eil goffi – gan addysgu’r defnyddiwr am wahanol fathau o goffi ac o ble maen nhw’n dod. Efallai y gellid gwneud yr un fath ar y silffoedd ac addysgu cwsmeriaid am broteinau ffres? Neilltuo lle ar gyfer addysg protein, gan dynnu sylw at gynnwys maeth gwahanol gigoedd?
Cwmnïau
Mae angen i gwmnïau helpu defnyddwyr i fabwysiadu ffordd holistaidd o ymdrin ag iechyd. Gallai hyn fod drwy hysbysebu penodol am eu cynnyrch a sut mae’n cyfrannu at ffordd iachach o fyw, er enghraifft. Mae llawer y gall cwmnïau ei ddysgu gan Joe Wicks ac rwyf yn amau y bydd y cwmni sy’n daro bargen gyda ef i lansio amrywiaeth o brydau cytbwys yn gwneud yn dda iawn. Mae eisoes mewn partneriaeth â Gousto, gwasanaeth bocs ryseitiau, sy’n ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn hawdd i deuluoedd fwynhau cinio cartref iach – mae’r fenter fusnes hon yn awgrymu y byddai’n barod i weithio gyda chynnyrch manwerthu.
Louise
Gorffennaf 2020
Fe’i clywsoch yma gyntaf – Mehefin 2020
Yn Levercliff, rydyn ni bob amser yn rhoi’r defnyddiwr wrth galon ein ffordd o feddwl. Mae deall eu hanghenion a sut maen nhw’n newid yn ein helpu i ddatblygu strategaethau ar gyfer ein cleientiaid. Mae ein harolwg Covid-19 tracio defnyddwyr diweddaraf yn adnodd gwych i ddeall agweddau ac ymddygiad defnyddwyr.
Defnyddwyr
Gan ddefnyddio canlyniadau ein harolwg, mae ein tîm dirnadaethau wedi datblygu pedwar proffil defnyddiwr newydd i’ch helpu chi i ddeall sut mae Covid19 yn effeithio ar ddefnyddwyr. Mae’r argyfwng yn effeithio ar wahanol ddefnyddwyr mewn gwahanol ffyrdd. Er nad yw rhai pobl yn sylwi ar newidiadau enfawr, mae eraill yn poeni. Dyna’r tueddiad rydyn ni’n disgwyl fydd yn parhau, a byddwn yn cadw llygad barcud ar y cynnydd yn yr arolwg nesaf. Cliciwch ar y ddolen hon i lwytho'r adroddiad uchafbwyntiau i lawr a chwrdd â Chartrefi dan Gyfyngiadau Symud.
Categorïau
Er bod y gwariant cyffredinol ar fwyd yn cynyddu, mae Covid19 yn effeithio’n enfawr ar sut mae defnyddwyr yn siopa. Ar y lefel uchaf, mae gwerthu alcohol, proteinau a bwydydd ffres wedi cynyddu, gyda’r galw am fwydydd cyfleus fel brechdanau, salad parod a phrydau parod yn gostwng. Oherwydd bod defnyddwyr yn cael eu gorfodi i fyw’n wahanol, mae’r angen am fwyd wedi newid. Bydd rhai o’r arferion hyn yn parhau, ac mae ein harolwg yn eich helpu i ddeall a allai’r newidiadau hynny effeithio ar eich busnes. Cliciwch y ddolen hon i lwytho'r adroddiad uchafbwyntiau i lawr.
Cwmnïau
Beth mae hyn yn ei olygu? Beth ddylech chi ei wneud? Dyma’r amser i drawsnewid eich busnes. Byddwch yn hyblyg. Edrychwch lle mae eich marchnad yn mynd gan addasu eich cynnig i weddu i hynny. Yn ystod cyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud, gwelwyd cyfnod o ymateb ar unwaith, ateb y galw neu fusnesau’n ‘cysgu’. Nawr rydyn ni’n gweld arloesi go iawn. Mae rhai cwmnïau’n ailagor ac yn ailddyfeisio eu busnesau, ac mae eraill yn gwneud newidiadau mwy cynnil. Nid oes un ateb a wnaiff y tro i bawb. Mae dod o hyd i’r wybodaeth fwyaf priodol ar gyfer eich busnes yn allweddol.
Cofiwch ein bod ni yma i helpu. Mynd i’r afael â’r pethau allweddol y gallwch eu gwneud i ddiogelu eich busnes yn y dyfodol.
David
Mehefin 2020
Fe’i clywsoch yma gyntaf – Mai 2020

Defnyddwyr
Mae figaniaeth a deiets sy’n seiliedig ar blanhigion wedi bob yn boblogaidd iawn dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwelir patrwm tebyg i figaniaeth gyda newid i alcohol-isel neu ddi-alcohol - mae’r rhain yn farchnadoedd bychan o’u cymharu â’u cymheiriaid traddodiadol ond mae’r bobl sy’n rhan o’r mudiad yn teimlo’n gryf iawn amdano. Er nad yw’r sector alcohol isel/di-alcohol yn rhan o’r brif ffrwd eto, mae’n ddiwylliant sy’n canolbwyntio’n fawr ar y ‘gymuned’ ar hyn o bryd – mae gan gymdeithas Sober Girl 89.5k o ddilynwyr ar Instagram ac mae gan Club Soda 15k o ddilynwyr – ac mae’r grwpiau hyn yn brysur yn rhannu’r holl argymhellion ar ddiodydd, brandiau a thafarnau gwych i bobl sy’n llwyrymwrthodwyr.
Mae defnyddwyr yn debygol o ystyried iechyd mewn ffordd wahanol yn dilyn Covid-19 (gan gymryd llai o galorïau, gofalu’n well am ein systemau mewnol) ac mae diodydd alcoholig ‘iachach’ megis seltser caled eisoes yn dechrau mynd ar y farchnad. Mae hyn wedi’i sbarduno gan awydd defnyddwyr i brynu diodydd hawdd eu hyfed, gyda llai o siwgr, a llai o galorïau. Os yw defnyddwyr yn fwy ymwybodol o’u harferion yfed, dylai cwmnïau, a’r categori alcohol yn gyffredinol, fod yn barod i addasu.
Categorïau
Mae’r categori alcohol-isel a di-alcohol yn ei ddyddiau cynnar ac yn sicr bydd rhai enillwyr a chollwyr yn y cyfnod cychwynnol hwn. I mi, mae cwrw wedi cymryd camau breision yn y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o gynhyrchion yn wahanol i’w cymheiriaid ABV uwch, ond mae ceisio dod o hyd i win alcohol isel/di-alcohol nad yw’n ofnadwy o felys yn dasg anodd iawn. Mae digon o le i arloesi o hyd yn y categori hwn ar gyfer diodydd sy’n apelio at ddant pawb.
Yn ogystal, mae gwirodydd di-alcohol yn codi prisiau syfrdanol o uchel, sy’n ei gwneud yn anodd i gwsmeriaid sydd awydd rhoi cynnig arnynt. Gallai coctels neu gin a thonic alcohol-isel neu di-alcohol, sydd â phwynt pris is yn naturiol, fod yn ffordd wych o ddenu yfwyr newydd.
Cwmnïau
Er bod honiadau wedi’u gwneud gan frandiau alcohol ynglŷn â phresenoldeb diodydd alcohol-isel a di-alcohol yn eu portffolio, ni chafwyd fawr o sylw gan unrhyw un o’r chwaraewyr mawr. Yn hytrach na meddwl bod yna fawr o syched amdano, ai oherwydd natur gymunedol defnyddwyr y categori hwn maen nhw’n troi eu cefnau ar y cwmnïau amlwladol mawr? Mae hwn yn lle y gall brandiau gael gafael go iawn ar y farchnad a meithrin perthynas ffyddlon gyda llysgenhadon brand amlwg.
Lauren
Mai 2020
Fe’i clywsoch yma gyntaf – Ebrill 2020

Defnyddwyr
Rhannu ryseitiau mewn negeseuon e-bost (dwi wedi cael ambell un fy hun), chwilio ar-lein am ysbrydoliaeth beth i'w goginio nesaf, mwynhau partïon/swperau ar Zoom, methu bwyta allan felly bwyta yn y tŷ. Rhaid bod y gweithgareddau hyn yn gwneud i ddefnyddwyr chwilio am gynhwysion cyffrous, newydd, cyflenwyr diddorol, rhoi cynnig ar atebion bwyd o safon bwytai er mwyn osgoi diflastod?
Eto i gyd, rydyn ni'n clywed nad yw manwerthwyr eisiau siarad am gynhyrchion newydd a bod gweithgynhyrchwyr yn gohirio NPD ac yn rhoi timau datblygu cynnyrch ar ffyrlo. Rwy'n deall bod hyn yn gwneud synnwyr ariannol yn y tymor byr ond tybed a fydd y rhagolwg tymor byr hwn yn atal manwerthwyr rhag ennill cyfran o'r gwariant ‘bwyta allan’ hwnnw maen nhw wedi ceisio cael gafael arno, ac y gallent bellach fod yn manteisio arno?
Onid dyma’r adeg iawn i chi feddwl mwy am y tymor hwy ac ysgrifennu'r briff NPD hwnnw ar gyfer cynnyrch ansawdd bwyty gwych rydych chi'n gwybod y gall eich tîm ei gynhyrchu, neu'r briff sy'n sôn am ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr weini rhywbeth gwych, gan eich bod wedi rhoi cynhwysyn arbennig iddynt i’w hysgogi neu uchafbwynt yng nghanol y plât.
Categorïau
Rhaid mai pobi yw’r categori mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, rhieni'n coginio gyda phlant, pawb eisiau gwneud bara a danteithion cartref, ac eto mae'n ymddangos mai dyma’r unig eil yn yr archfarchnadoedd lle mae’r cynnyrch yn brin. Rwy'n cael trafferth cofio faint o weithiau rwyf wedi mynd i’r siop a gorfod dod adref yn siomedig heb flawd neu furum. Mae'n cymryd 60 diwrnod i newid neu greu arferiad newydd, a fydd pobi'n colli cyfle os bydd yn cymryd 60 diwrnod i roi trefn ar gyflenwad?
Caiff atebion ac arloesedd eu sbarduno'n aml gan bethau sy'n digwydd mewn sectorau cyfagos, efallai fod angen i felinau edrych ar gategorïau eraill am ysbrydoliaeth o ran atebion pecynnu, neu efallai nad ydych chi’n felinydd ond bod gennych linell bacio sy'n segur oherwydd diffyg galw mewn rhai sianeli, a gallech ystyried pecynnu ar y cyd i felin leol, a helpu i wneud llawer o bobyddion amatur yn llawer hapusach.
Cwmnïau
Rydym i gyd yn gwybod pa mor rhyfeddol o galed y mae gweithgynhyrchwyr bwyd wedi gweithio gyda'r manwerthwyr i oresgyn yr her o gael cynnyrch yn ôl i'r siopau a bwydo'r genedl, ond credaf i lawer mai'r her yn y tymor hwy fydd sut i aros yn berthnasol mewn byd ar ôl Covid, yn enwedig pan fydd defnyddwyr yn poeni am arian yn eu pocedi.
Mae sgyrsiau fforwm cymunedol yn llawn rhagdybiaethau y byddwn yn rhoi'r gorau i fod yn glên wrth ein gilydd pan ddaw'r cyfyngiadau symud i ben, a dywedir hyn gyda thristwch go iawn. Yn fy marn i bydd y cwmnïau sy'n helpu ac yn annog pobl i barhau i feddwl am eu cymunedau a chymryd rhan yn parhau i ffynnu.
A oes ffyrdd y gall eich brand gadw'r ysbryd cymunedol yn fyw, efallai drwy gysylltiadau â rhwydweithiau cymunedol yr ydych chi'n mynd ati i'w hyrwyddo/cyfrannu atynt? Ond peidiwch â meddwl y gallwch chi ffugio hyn - rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor effeithiol yw'r rhyngrwyd am weld drwy unrhyw beth ‘ffug’ yn gyflym iawn.
Clodagh
Ebrill 2020