Rydym yn dîm hyblyg sy’n cydweithio’n agos i ddarparu’r wybodaeth a’r empathi mae eich busnes ei angen i wneud penderfyniadau beiddgar ac i weddnewid. Er nad yw herio’n codi ofn arnom, rydym i gyd yn bobl ymarferol, sy’n cymryd amser i ddod i’ch adnabod chi a’ch busnes. Drwy ddefnyddio Levercliff, bydd gennych hefyd fwy o amser i fwrw iddi i redeg eich busnes, heb y baich o orbenion cost sefydlog.
Fintan O’Leary,
Cyfarwyddwr.
Mae Fintan wedi treulio’i yrfa yn gweithio mewn rolau masnachol uwch gyda chwmnïau bwyd blaenllaw fel Glanbia, ABN a Bakkavor ac mae wedi cydweithio’n agos gyda mwyafrif prif fanwerthwyr lluosog y DU. Yn Levercliff, mae wedi arwain y broses o weddnewid Levercliff o fod yn arbenigwr marchnata i fod yn ymgynghoriaeth fusnes yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i’r sector bwyd a diod. Mae Fintan yn arbenigwr masnachol, gan arbenigo mewn gweithio gyda chwmnïau ar gynllunio a datblygu busnes yn strategol. Mae hefyd yn arwain rhaglenni yn y sector cyhoeddus ar gyfer Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru, Scottish Enterprise a Bord Bia (Bwrdd Bwyd Iwerddon).
Clodagh Sherrard,
Cyfarwyddwr.
Mae Clodagh wedi gweithio gyda chwmnïau bwyd a diod bach a mawr, gan gynnwys ABP, Linden Foods, Keoghs, Celtic Pure, Llaeth y Llan, ar draws amrywiaeth eang o sectorau am fwy na 25 mlynedd. Mae ganddi Radd Feistr mewn Marchnata, ac mae’n arbenigo ar weithio gyda chwmnïau i ddatblygu strategaethau twf drwy ddefnyddio gwybodaeth am ddefnyddwyr a’r farchnad. Mae Clodagh hefyd yn arwain ar brosiectau ymchwil strategol ar gyfer asiantaethau yn y sector cyhoeddus fel Bord Bia (Bwrdd Bwyd Iwerddon), Invest NI ac Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru.
Will Shaw,
Cyfarwyddwr Cyswllt.
Mae gan Wil dros 25 mlynedd o brofiad busnes yn gweithio mewn amrywiaeth eang o farchnadoedd a sectorau bwyd yn y DU. Mae wedi dal swyddi uwch ym meysydd Marchnata, Rheoli Categorïau, Gweithrediadau a Rheolaeth Gyffredinol ar gyfer busnesau fel Premier Foods a Baxter Foods. Yn ddiweddar, mae wedi gweithio fel ymgynghorydd ar sawl prosiect yn cefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru, yr Alban, Iwerddon a Gogledd Iwerddon, gan wella’u sgiliau yng nghyswllt eu harbenigedd masnachol a’u cynlluniau busnes.
Mark Grant,
Cyfarwyddwr Cyswllt.
Treuliodd Mark dros 22 mlynedd yn gweithio yn Tesco ac mae ei brofiad yn cynnwys prynu masnachol a gweithrediadau yn y siopau. Yn ystod ei 5 mlynedd olaf, roedd yn gyfrifol am reoli’r gwaith masnachol yng Nghymru. Ers 2014, bu Mark yn datblygu’r Strategaeth Categorïau Bwyd yn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, gan ddelio â phob agwedd ar wariant bwyd y sector cyhoeddus ledled Cymru. Mae wedi bod yn gweithio gyda Levercliff ers 2016 ac mae’n helpu cleientiaid i baratoi ar gyfer cwrdd â phrynwyr masnach a’u helpu i siapio’u gweithgarwch a’u cynnyrch.
Duncan Macaskill,
Uwch Reolwr Dirnadaethau.
Mae Duncan wedi bod yn gweithio gyda Levercliff am dros 13 blynedd ac mae’n arbenigo mewn dadansoddi data a darparu gwybodaeth strategol am y farchnad. Mae ganddo Ddiploma mewn Marchnata yn ychwanegol at ei radd BSc, mae’n aelod o’r Sefydliad Marchnata Siartredig ac mae wedi ymchwilio i bron bob un categori bwyd a diod y gallwch eu dychmygu. Oherwydd hyn, mae ganddo gyfoeth o wybodaeth y gellir ei defnyddio i ddarparu gwybodaeth a chyngor ystyrlon a chywir i gleientiaid.
Tammie O’Leary,
Rheolwr Cyfathrebiadau.
Ymunodd Tammie â Levercliff yn 2016. Mae ganddi sawl blwyddyn o brofiad rheoli yn y maes manwerthu a hefyd mewn rolau gwerthu a marchnata yn y sector fferyllol. Yn ogystal, mae ganddi brofiad o redeg ei busnes ei hun ar-lein. Mae Tammie yn defnyddio’i sgiliau cyfathrebu a marchnata sylweddol i gefnogi tîm Levercliff ac i godi ymwybyddiaeth o’i wasanaethau a’i gyflawniadau drwy gyfrwng yr holl sianeli sydd ar gael.
Lauren Smith,
Dadansoddwr Dirnadaethau.
Ymunodd Lauren â’r busnes yn 2017 fel Dadansoddwr Dirnadaethau, ar ôl bod yn gweithio yn y diwydiant offer pŵer ers iddi raddio. Mae gan Lauren BA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Bangor, ac mae wedi gweithio ym meysydd marchnata ac e-fasnach yn flaenorol. Mae hi’n dod â sgiliau cryf ym meysydd dadansoddi beirniadol a datrys problemau i’r tîm. Mae Levercliff yn falch iawn o gyflwyno newydd-ddyfodiaid fel Lauren i’r diwydiant bwyd a diod.
Ruth Irving,
Cyfarwyddwr Cyswllt.
Mae gan Ruth 20 mlynedd o brofiad o farchnata, brandio a strategaeth mewn bwyd a diodydd mewn marchnadoedd sy’n datblygu ac sy’n dod i’r amlwg.
Mewn gyrfa sydd wedi cynnwys gweithio gyda chorfforaethau byd-eang fel Britvic, Johnson & Johnson, a PZ Cussons ac yn fwy diweddar gyda busnesau bach a chanolig ac unig fasnachwyr, mae Ruth wedi meithrin set gref o sgiliau gan gynnwys: strategaethau ar gyfer dod â chynnyrch newydd i’r farchnad, canfod cyfleoedd newydd ar gyfer posibiliadau Datblygu Cynnyrch Newydd, mapiau ar gyfer ehangu’n rhyngwladol, strategaethau marchnadoedd newydd, strategaethau brandio a chorfforaethol.
Mae aseiniadau diweddar Ruth wedi cynnwys mapio’r diwydiant a meincnodi, gwerthuso’r farchnad, cynllunio busnes 2-5 mlynedd, rheoli categorïau, asesu a defnyddio gyda chyfleoedd busnes portffolio, a blaenoriaethu twf a mentrau busnes.
Clair Prior,
Rheolwr Dirnadaethau.
Ymunodd Clair â Levercliff yn 2018 ac mae ganddi dros 17 mlynedd o brofiad o weithio mewn ymchwil a dirnadaethau ar draws ystod eang o sectorau gan gynnwys gwasanaethau ariannol a nwyddau i’r cartref. Gyda Diploma MRS mewn Ymchwil i’r Farchnad, mae hi hefyd yn aelod llawn o’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad. A hithau wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa ar ochr y cleientiaid, mae Clair yn canolbwyntio ar gyflawni dirnadaethau ymarferol ac ystyrlon i gleientiaid.
Louise Cowdy,
Dadansoddwr Dirnadaethau.
Ers cwblhau ei gradd Marchnata Bwyd ac Economeg Busnes ym Mhrifysgol Reading yn 2015, mae Louise wedi bod yn dilyn gyrfa yn y diwydiant bwyd ar y cynllun graddedigion MDS. Roedd hyn yn cynnwys secondiadau i amrywiaeth o fusnesau bwyd gwahanol gan gynnwys The Fruit Firm, G’s Fresh, Aldi a Kynetec, gan roi profiadau gwych iddi mewn ystod eang o amgylcheddau gwaith o fewn y diwydiant bwyd, gan gynnwys Cynnyrch Ffres, Adwerthu Amrywiol, ac Ymgynghori. Ymunodd Louise â thîm Levercliff yn 2018 i ganolbwyntio ar farchnata Bwyd a Diod, ac mae hi’n ychwanegiad cyffrous i’r tîm.
David Craig,
Ymgynghorydd Marchnata.
Ymunodd David â thîm Levercliff yn 2018. Mae David wrth ei fodd â bwyd ac wedi gweithio mewn swyddi marchnata ar draws y gadwyn fwyd. Mae wedi gweithio i gwmnïau sy’n cynnwys Whole Foods Market, Matthew Algie Coffee Roasters, ac yn fwy diweddar, Baxters Food Group. Mae gan David radd Feistr mewn Gastronomeg yn ogystal â gradd BA (Anrh) Datblygu Cynnyrch Bwyd. Mae ei arbenigeddau’n cynnwys defnyddio dirnadaeth ar gyfer strategaeth brand, rheoli categorïau, datblygu cynnyrch newydd a thrawsnewid busnes.
Tom Evans,
Dadansoddwr Dirnadaeth.
Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda BSc mewn Busnes a Rheolaeth, cafodd Tom brofiad gwaith yn y sector adwerthu, gan ddatblygu cyfres gadarn o sgiliau fel dadansoddwr systemau. Ar ôl ymuno â’r tîm yn 2018, mae Tom yn awyddus i gyfrannu at y diwydiant bwyd a diod gyda’i ddull dadansoddol o weithio a’i brofiad marchnata.
Rydym wedi bod yn helpu cleientiaid i ddatblygu eu busnesau ers 1992.
I weld rhai enghreifftiau o’r hyn rydym wedi bod yn ei wneud,
cliciwch y dolenni isod.